Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae'r Llywodraeth yn cadarnhau bod y defnydd o "playground area" yn hytrach na "playground ahead" yn wall teipograffyddol. Nid yw'r Llywodraeth yn ystyried bod y gwahaniaeth yn effeithio'n sylweddol ar weithrediad y ddarpariaeth, ond er mwyn sicrhau cysondeb bydd yn cywiro'r gwall teipograffyddol ar y cyfle nesaf sydd ar gael.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:

Mae'r Llywodraeth o'r farn bod y geiriau “In relation to England” yn cael eu mewnosod yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 ("RhChCAT 2016”) yn yr un modd â phan gyflwynir arwydd newydd yn ymwneud â Chymru yn ‌Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 (“yr Offeryn”) (h.y., ar ôl y rhif diagram).                                                                                                                                                                                  

Pwynt Craffu Technegol 3:

Mae'r Llywodraeth yn nodi'r mân anghysondeb a nodwyd ond yn ystyried nad yw'n achosi camddealltwriaeth o ganlyniad i hynny.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau yn Rhan 3 o'r Offeryn gan ddibynnu ar yr un pwerau galluogi ag y ddibynnir arnynt mewn perthynas â Rhannau 1 a 2, sef adran 64 (1), (2) a (3), adran 65 (1) ac adran 85 (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Mae'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i Rannau 1 a 2 o'r Offeryn a nodir yn adran 65 (3ZC), 85 (10) a 134 (10) a (13) hefyd yn gymwys i Ran 3 o'r Offeryn. Ymgynghorwyd ar y darpariaethau trosiannol ac arbed yn Rhan 3 o'r Offeryn cyn i reoliadau gael eu gwneud a chyn i'r cyfarwyddydau cyffredinol gael eu rhoi yn yr un ymarfer ymgynghori yn ymwneud â Rhannau 1 a 2.

Bydd Rhan 3 yn dod i rym ar 17 Medi 2023 ar yr un pryd â Rhannau 1 a 2.

Mae Rhan 3 yn rhan o'r Offeryn, ynghyd â Rhan 1 a 2.

Mae'r Llywodraeth yn nodi'r pwyntiau a wnaed ac yn cydnabod y gellid bod wedi gwneud darpariaeth benodol ar gyfer Rhan 3 mewn perthynas â'r pwyntiau a eglurwyd uchod. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth o'r farn ei bod yn eglur o gyd-destun yr Offeryn — yn enwedig yn sgil y ffaith bod Rhan 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol ac arbedion sy'n ymwneud â'r rhannau eraill — bod Rhan 3 yn cael ei gwneud gan ddefnyddio'r un pwerau galluogi â'r rhannau eraill, yr ymgynghorwyd arni yn yr un ffordd a'i bod yn dod i rym ar yr un pryd.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:

Mae'r Llywodraeth wedi cymryd y farn mai un offeryn o dair rhan yw hwn i bob pwrpas, ac felly dim ond un set o baragraffau wedi'u rhifo y mae wedi'i defnyddio.

Mae'r Llywodraeth yn nodi'r mân anghysondeb a nodwyd yng nghyfarwyddyd cyffredinol 8 ac mae'n bwriadu cywiro hyn drwy slip cywiro.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 6:

Wrth ddrafftio'r Offeryn hwn, mae'r Llywodraeth wedi ystyried effaith y darpariaethau trosiannol ac arbed ar orfodi troseddau traffig ffyrdd yn ystod y cyfnod trosiannol ac yn ystyried na fydd unrhyw effaith. Mae'r arwyddion traffig a ddaliwyd gan y darpariaethau hyn yn ymwneud yn bennaf â pharthau 20mya (gweler eitemau 5 – 7 yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 10) ac arwyddion ategu 20mya (gweler eitem 1 yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 10) a marciau ffordd (gweler eitem 9 yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 10). Ni fydd y terfyn cyflymder ar y ffyrdd y mae'r arwyddion hyn wedi eu gosod arnynt ar hyn o bryd yn newid a bydd yn aros ar 20mya ac felly er y caniateir cyfnod ar ôl i'r Offeryn ddod i rym i awdurdodau priffyrdd gael gwared ar arwyddion traffig diangen a sicrhau bod yr holl arwyddion traffig yn cydymffurfio â RhChCAT 2016 fel y'i diwygiwyd gan yr Offeryn hwn, ni fydd yr arwyddion sydd ar waith ar hyn o bryd yn atal awdurdodau priffyrdd rhag gorfodi'r terfyn cyflymder cywir.

Ni fydd yr arwydd “TERFYN CYFLYMDER 30MYA NEWYDD MEWN GRYM” (gweler eitem 38 yn y tabl yn Rhan 6 o Atodlen 13) ‌bellach yn cydymffurfio â RhChCAT 2016 fel y'i diwygiwyd gan yr Offeryn hwn, ond fe'i delir hefyd gan y darpariaethau trosiannol ac arbed. Mae hwn yn arwydd dros dro na ellir ond ei osod yn ystod y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau â'r diwrnod y daw terfyn cyflymder 30mya i rym.  Mae'r darpariaethau trosiannol ac arbed yn yr Offeryn yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i awdurdodau priffyrdd gadw'r arwyddion hyn yn eu lle (am weddill y cyfnod o 6 mis y gellir eu defnyddio ar ei gyfer o dan gyfarwyddyd cyffredinol 13 yn Rhan 12 o Atodlen 13) ar ffyrdd lle gosodwyd terfyn cyflymder o 30mya yn ddiweddar (a lle mae terfyn cyflymder o 30mya yn parhau mewn grym drwy eithriad i Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ("y Gorchymyn 20mya")). Mae'r Offeryn yn mewnosod arwydd newydd yn RhChCAT 2016 (sy'n nodi terfyn cyflymder newydd o 20mya - gweler rheoliad 6(b)) i'w ddefnyddio ar ffyrdd yng Nghymru lle mae terfyn cyflymder o 20mya wedi'i osod o ganlyniad i'r Gorchymyn 20mya.